Plant ysgol ymhlith y 252 sydd wedi marw yn naeargryn Indonesia

Mae plant ysgol ymhlith y 252 o bobl sydd wedi marw yn dilyn daeargryn yn Indonesia, yn ôl yr awdurdodau ar brif ynys y wlad, Java.
Fe gafodd cannoedd o bobl eu hanafu wedi i'r daeargryn daro rhanbarth Cianjur yng ngorllewin Java ddydd Llun.
Roedd y daeargryn yn mesur 5.6 ar y raddfa Richter.
Mae yna dal ymgais i geisio cyrraedd pobol sy’n gaeth yn y rwbel.
Yn ôl un swyddog lleol yn Cianjur, mae'r ymdrechion i achub pobl mewn rhai ardaloedd wedi'u hamharu gan dirlithriadau.
Rhagor yma.