Newyddion S4C

Neco Williams mewn galar yn chwarae i Gymru

22/11/2022
S4C

Fe chwaraeodd Neco Williams ran fawr yng ngêm Cymru yn erbyn yr Americanwyr yng Nghwpan y Byd, ond roedd hefyd yn galaru.

Mewn neges i’w ddilynwyr ar Twitter ac Instagram datgelodd Williams ei fod wedi colli ei daid llai na 24 awr cyn y gêm fawr.

“Ddoe oedd y newyddion anoddaf i mi ei wynebu erioed, sef gwrando ar fy mam yn dweud wrtha i fod fy nhaid wedi ein gadael neithiwr.

“Roedd taid wedi dilyn fy ngyrfa pêl-droed i bob man, ac wedi fy ngwylio o gwmpas y byd ers i mi ddechrau gyda thîm Lerpwl yn chwech oed.

“Doedd taid byth yn dweud wrtha'i fy mod wedi cael gêm dda achos roedd o bob amser yn dweud bod yn rhaid i mi wella a gwella bob dydd. Dyna pam rydw i wedi cyrraedd lle rydw i rŵan!”

Ychwanegodd ei fod wedi cael dechrau anodd i Gwpan y byd a’i fod wedi bod yn crio “drwy’r dydd” cyn y gêm.

Image
S4C
Neco Williams a'i daid. 

Yn dilyn y gêm roedd Williams yn emosiynol iawn ac fe edrychodd i un o’r camerâu gan ddweud, “Roedd honna i chi Taid.”

Un arall oedd yn chwarae o dan amodau personol anodd oedd Connor Roberts.

Bu farw Tad-cu Roberts ddydd Mawrth diwethaf cyn iddo deithio gyda’r tîm i Qatar.

“Fore dydd Mawrth cyn i ni hedfan cefais y neges bod fy Nhad-cu wedi marw. Roedd y llwyddiant hwn iddo ef, a gobeithio y gwnes i ef, a fy nheulu a ffrindiau oll yn falch." 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.