Newyddion S4C

Cwpan y Byd: 'Perfformiad gwych ar ôl hanner cyntaf difrifol'

Newyddion S4C 22/11/2022

Cwpan y Byd: 'Perfformiad gwych ar ôl hanner cyntaf difrifol'

Mae cyn-chwaraewr Cymru, Iwan Roberts, wedi canmol "cymeriad" Cymru am newid y gêm wedi "hanner cyntaf difrifol".

Fe darodd Cymru yn ôl i sicrhau gêm gyfartal yn erbyn yr UDA. 

Yr Americanwyr oedd yn rheoli yn yr hanner cyntaf ac fe aeth Cymru i mewn i'r egwyl ar ei hôl hi, wedi gôl gan Tim Weah ar ôl 36 munud. 

Ond roedd hi’n gêm wahanol yn yr ail hanner, ac fe ddangosodd chwaraewyr Cymru i'r byd eu bod nhw yma o hyd.  

Daeth Kieffer Moore ymlaen oddi ar y fainc a newidiodd y gêm. 

Dywedodd Roberts ei fod "methu dallt" y penderfyniad i beidio dechrau Moore yn y lle gyntaf. 

"A dweud y gwir o'n i'n meddwl y dylse Kieffer Moore di dod i'r cae cyn i'r hanner cynta ddod i ben," meddai. 

"Ddaru ni weld y gwahaniaeth yn y tîm!" 

Er gwaethaf y trafferthion yn yr hanner gyntaf, ychwanegodd Roberts fod y chwaraewyr yn "haeddu clod" am y perfformiad yn yr ail hanner. 

"Oedd o'n berfformiad arwrol."

"A'r teimlad o'n i'n cael ar ôl unioni pethau oedd os oedd trydedd gôl yn mynd i ddod, Cymru oedd mynd i'w chael hi." 

"Perfformiad gwych yn yr ail hanner, dangos cymeriad ar ôl hanner gyntaf difrifol."

Llun: FAW

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.