Newyddion S4C

Dros 160 o bobl wedi marw yn dilyn daeargryn yn Indonesia

The Independent 21/11/2022
Daeargryn Indonesia

Mae o leiaf 160 o bobl wedi marw yn dilyn daeargryn yn Indonesia, yn ôl yr awdurdodau ar brif ynys y wlad, Java. 

Fe gafodd 700 o bobl eu hanafu wedi i'r daeargryn, oedd yn mesur 5.6 ar y raddfa Richter, daro rhanbarth Cianjur yng ngorllewin Java ddydd Llun. 

Dywedodd Asiantaeth Rheoli Trychinebau Naturiol Indonesia bod nifer o bobl wedi'u lladd neu anafu wrth i adeiladau ddymchwel, gan adael nifer o drigolion yn gaeth o dan weddillion yr adeiladau. 

Yn ôl un swyddog lleol yn Cianjur, mae'r ymdrechion i achub pobl mewn rhai ardaloedd wedi'u hamharu gan dirlithriadau. 

Darllenwch fwy yma

Llun: Asiantaeth Rheoli Trychinebau Naturiol Indonesia 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.