Gareth Bale ddim yn mynd i wisgo band braich 'OneLove' yn ystod gêm Cymru
Mae tîm pêl droed Cymru wedi cyhoeddi na fydd Gareth Bale yn gwisgo band braich 'OneLove' yng Nghwpan y Byd ar ôl i FIFA rybuddio y gallai'r capten dderbyn cerdyn melyn.
Bwriad y band braich amryliw yw hybu amrywiaeth a chynhwysiad fel rhan o ymgyrch ehangach yn erbyn gwahaniaethu mewn pêl-droed.
Fore dydd Llun fe gafodd datganiad ei gyhoeddi ar y cyd rhwng Cymdeithas Bêl Droed Cymru, Lloegr, Yr Almaen, Gwlad Belg, Yr Iseldiroedd, Swistir a Denmarc, dan enw Gweithgor Hawliau Dynol UEFA.
Yn y datganiad fe ddywedodd y Gweithgor fod y gwledydd wedi bod yn barod i dalu dirwy oherwydd rheolau FIFA am wisg chwaraewyr, ond nad oedden nhw yn barod i'r chwaraewyr orfod derbyn cerdyn melyn neu hyd yn oed adael y cae.
"Rydyn ni yn rhwystredig iawn gyda phenderfyniad FIFA sydd yn ein tyb ni yn ddigynsail. Fe ysgrifennon ni at FIFA ym mis Medi gan ddatgan ein dymuniad i wisgo band braich 'OneLove' er mwyn hyrwyddo bod yn gynhwysol ond chafon ni ddim ymateb.
"Mae ein chwaraewyr a hyfforddwyr yn siomedig. Maent yn gredwyr cryf mewn bod yn gynhwysol ac fe fyddant yn dangos cefnogaeth mewn ffyrdd eraill."
National federations have released the following statement.
— FA WALES (@FAWales) November 21, 2022
Mewn ymateb i'r newyddion, fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, feirniadu'r penderfyniad "creulon".
“Dyma Gwpan y Byd lle mae croeso i fod i bawb – oni bai, wrth gwrs, eich bod chi’n LDHT+ neu’n cyd-sefyll gyda phobl LDHT+.
“Mae penderfyniad FIFA i gosbi chwaraewyr am wisgo band One Love yn atgas ac yn greulon. Rhaid iddynt wrthdroi eu penderfyniad niweidiol ar unwaith.
“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gweithio’n galed i wneud y gêm yn ddiogel ac yn gynhwysol. Rhaid cario'r neges honno o gariad a chynwysoldeb i'r byd heb ofn na chasineb. Rhaid i FIFA amddiffyn hawliau pobl LHDT+ waeth ble mae'r gêm yn cael ei chynnal."
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd wedi cwestiynu'r penderfyniad. Dywedodd y Gweinidog Cysgodol dros Chwaraeon, Tom Giffard: "Mae'r newid sydyn yma yn amlwg yn arwydd o ddylanwad uniongyrchol FIFA o ganlyniad i ddymuniadau awdurdodau Qatar.
"Rydym yn cefnogi penderfyniad CBDC i ofyn i Gareth Bale i beidio gwisgo'r band. Mae'r penderfyniad anodd yma yn uwcholeuo'r broblem, gan ei gosod yng nghanol yr holl sylw ar Gwpan y Byd."
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, wedi dweud fod y penderfyniad yn profi na ddylai'r bencampwriaeth fod wedi ei chynnal yn Qatar yn y lle cyntaf.
"Mae'r penderfyniad hwn hefyd yn codi mwy o gwestiynau dros benderfyniad Llywodraeth Cymru a Mark Drakeford i fynychu'r bencampwriaeth, fel yr wyf eisoes wedi datgan, dydy trafodaethau tu ôl i ddrysau caeedig ddim yn ddigon, yn enwedig os ydy Qatar yn sensora unrhyw ddangosiadau cyhoeddus o gefnogaeth.
"Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig bob amser yn sefyll i fyny dros hawliau'r gymuned LHDT+, ynghyd â'r menywod a'r gweithwyr tramor sydd hefyd wedi cael eu hawliau wedi eu distewi neu eu gwyngalchi yn y bencampwriaeth hon."