Kanye West yn dychwelyd i Twitter

21/11/2022
S4C

Mae Kanye West wedi dychwelyd i Twitter ar ôl iddo gael ei wahardd rhag ysgrifennu ar ei gyfrif am iddo wneud sylwadau antisemitig.

Fe bostiodd y gair Hebraeg “shalom” a gyfieithir yn aml fel "heddwch"gydag emoji gwenu nos Sul.

Ychydig oriau ynghynt, fe drydarodd: "Profi profi i weld os ydy fy Twitter wedi'i ddadflocio".

Fe wnaeth perchennog newydd Twitter, Elon Musk, ateb y trydar gan ddweud: "Peidiwch â lladd yr hyn yr ydych yn ei gasáu. Arbedwch yr hyn yr ydych yn ei garu".

Cafodd cyfrifon Twitter ac Instagram West eu cyfyngu ym mis Hydref ar ôl iddo bostio sylwadau sarhaus am bobl Iddewig. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.