Arestio dyn yn dilyn ymosodiad rhyw honedig yng Nghaerdydd
20/11/2022
Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dyn 27 oed mewn cysylltiad ag ymosodiad rhyw honedig yng Nghaerdydd.
Mae'r llu'n apelio am dystion wedi'r digwyddiad ym Mharc Bute am tua 06.00 fore dydd Sul.
Dywedodd yr heddlu fod y dyn yn cael ei gadw yn y ddalfa.
Mae’r heddlu wedi cau rhan o’r llwybr trwy'r parc wrth i’w hymholiadau barhau.