Newyddion S4C

O leiaf pump o bobl wedi marw mewn achos o saethu yn yr UDA

Reuters 20/11/2022
Colorado Springs

Mae o leiaf pump o bobl wedi marw ac 18 wedi eu hanafu mewn achos o saethu mewn dinas yn nhalaith Colorado yn yr UDA.

Fe ddigwyddodd y saethu mewn clwb nos hoyw yn ninas Colorado Springs.

Dywedodd yr heddlu yn y ddinas eu bod nhw'n dal dyn 22 oed, Anderson Lee Aldrich, yn ymwneud â’r digwyddiad ac mae e wedi bod yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty am ei anafiadau.

Ychwanegodd llefarydd fe fydd swyddogion yno am “oriau i ddod.”

Mae asiantaeth yr FBI yn cynorthwyo heddlu’r ddinas.

Darllenwch fwy yma.

Llun: Twitter

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.