Alw am fwy o bobl i helpu dysgwyr Cymraeg

Alw am fwy o bobl i helpu dysgwyr Cymraeg
Mae yna alw am fwy o bobl i fod yn rhan o gynllun i helpu dysgwyr Cymraeg i ddod yn rhugl. Mae cynllun "Siarad" y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn paru siaradwyr Cymraeg gyda dysgwyr. Dros y flwyddyn ddiwethaf, roedd 280 o ddysgwyr yn rhan o'r cynllun ond roedd mwy na hynny yn aros am bartner.