COP 27: Cytundeb hanesyddol i daclo newid hinsawdd

Mae bron i 200 o wledydd wedi dod i gytundeb i lansio cronfa er mwyn digolledi gwledydd tlawd am y difrod achoswyd gan newid hinsawdd.
Dywedodd cynrychiolydd y DU yn y gynhadledd COP 27 yn Sharm el-Sheikh yn Yr Aifft nad oedd y cytundeb yn ddigon uchelgeisiol.
Dywedodd Alok Sharma ei fod yn “hynod siomedig” na chafwyd cytundeb ar dorri allyriadau tanwydd carbon er mwyn cyfyngu ar gynhesu byd eang.
Roedd y gynhadledd wedi ei hymestyn dros y penwythnos wrth i drafodaethau fethu.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Twitter/COP27