Ben Davies: 'Ni’n anelu am rhywbeth arbennig’
Cafodd Cymraeg ei chlywed am y tro cyntaf mewn cynhadledd i’r wasg yng Nghwpan y Byd.
Fe wnaeth amddiffynnwr Cymru Ben Davies gynnal cynhadledd y wasg yn Doha ddydd Sadwrn trwy gyfrwng y Gymraeg yn gyfan gwbl.
Mae Davies yn aelod hynod brofiadol o garfan Cymru erbyn hyn wedi iddo chwarae yng nghystadlaethau Euro 2016 ac Euro 2020.
Fe fydd Cymru yn herio'r UDA yn eu gêm agoriadol yn y gystadleuaeth nos Lun.
Dywedodd Davies: "Ni'n gwybod bod y gêm gyntaf mor bwysig i sut fydd y gystadleuaeth yn mynd.
"Yn y 10, 15 munud cynta', jyst cadw'n eitha calm, ymlacio cymaint â ni'n gallu, a codi mewn i'r gêm fel ni'n mynd 'mlaen.
"Ni wedi 'neud lot o waith paratoi mas ar y cae ac ar fideo. Maen nhw'n dîm da a bydd e'n gêm anodd yn erbyn nhw.
"Mae'n deimlad ffantastig i fod yn rhan o'r garfan ac i gael y siawns i ddod â Chymru i lefydd o gwmpas y byd, i wledydd sydd ddim wedi gweld ni'n chwarae o'r blaen.
"Mae'n deimlad sbesial iawn i fod yn rhan ohono.
"Dyna beth 'dyn ni'n ceisio 'neud, 'dyn ni'n ceisio dangos y pethau gorau am Gymru a bydd pawb yn gwisgo'r crys gyda lot o falchder."
Llun: CBDC