Cymru'n colli i Georgia yng Nghaerdydd
Cymru'n colli i Georgia yng Nghaerdydd
Fe gollodd Cymru o bwynt i Georgia yng Nghaerdydd brynhawn dydd Sadwrn.
O flaen torf o 62,000 yr ymwelwyr aeth ar y blaen gyda chic gosb i’r maswr Tedo Abzhandadze ar ôl dwy funud ar ôl i Gymru fethu â sicrhau’r meddiant o’r gic gyntaf.
Yn dilyn chwarter agoriadol blêr aeth Cymru ar y blaen yn haeddiannol gyda chais i’r blaenasgellwr Jac Morgan yn dilyn symudiad celfydd o lein yn agos at linell gais Georgia. Fe ychwanegodd y maswr Rhys Priestland y trosiad.
Daeth ail gais i Gymru a Morgan ar ôl 23 munud wrth i'r tîm cartref yn y crysau duon ledu’r bêl. Methodd Priestland y trosiad.
Er i’r asgellwr Josh Adams dirio’r bêl yn gelfydd ar ôl 31 munud ni chaniatawyd y cais oherwydd roedd y bas ymlaen yn gynharach yn y symudiad.
Roedd Cymru'n arwain o 12-3 ar yr egwyl ar ôl hanner cyntaf hollol ddifflach.
Fe ddechreuodd yr ail hanner yn yr un modd ac fe dderbyniodd yr asgellwr Alex Cuthbert gerdyn melyn ar ôl 51 munud am daclo chwaraewr Georgia yn yr awyr.
Fe gymerodd Georgia fantais o hyn gyda’r asgellwr Alexander Todua yn croesi am gais ar ôl 58 munud gyda Abzhandadze yn trosi i ddod â'r ymwelwyr o fewn dau bwynt i Gymru.
Fe ddaeth rhyddhad i Gymru wrth i Georgia fethu cic gosb ar ôl 64 munud fyddai wedi rhoi’r flaenoriaeth iddyn nhw eto.
Roedd Georgia yn rheoli’r meddiant a’r diriogaeth yn ystod y cyfnod yma ac roedd Cymru’n cael hi’n anodd cael eu dwylo ar y bêl ac yn dangos tipyn o nerfusrwydd.
Er i Morgan groesi’r llinell gais ar ôl 73 munud fe darwyd y bêl ymlaen yn gynharach.
Fe giciodd eilydd Georgia Luca Matkava gôl gosb o 42 metr ar ôl 77 munud i ddodi ei dîm ar y blaen yn haeddiannol o bwynt gan ddal eu tir am fuddugoliaeth hanesyddol iddyn nhw ac embaras llwyr i dîm Wayne Pivac.
Y sgôr terfynol: Cymru 12-13 Georgia.
Yn dilyn y golled yn erbyn Yr Eidal ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad fe fydd colli i Georgia nawr yn gosod rhagor o bwysau ar ysgwyddau Pivac lai na blwyddyn cyn Cwpan y Byd yn Ffrainc.
Llun: Asiantaeth Huw Evans