Newyddion S4C

Cwpan y Byd: Pennaeth FIFA yn cyhuddo gwledydd y gorllewin o ‘ragrith’

Sky News 19/11/2022
Gianni Infantino

Mae llywydd corff rheoleiddio pêl-droed ryngwladol FIFA wedi taro nôl yn erbyn beirniadaeth o Qatar. 

Mae Qatar wedi wynebu beirniadaeth am driniaeth o weithwyr mudol ag agweddau tuag at hawliau hoyw.

Mewn cynhadledd i’r wasg dydd Sadwrn fe amddiffynnodd Gianni Infantino Qatar a’r gystadleuaeth gan ddweud mai gwledydd Ewrop ddylai "ymddiheuro am y 3,000 blwyddyn nesaf cyn rhoi gwersi moesol.”

Fe gyhuddodd Mr Infantino gwledydd y gorllewin o “ragrith” wrth adrodd am record hawliau dynol Qatar ar drothwy'r gystadleuaeth.

Darllenwch fwy yma.

Llun: Twitter

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.