Newyddion S4C

COP 27: Y gynhadledd yn gor-redeg wrth i wledydd fethu cytuno

COP 27

Mae cynhadledd hinsawdd COP 27 wedi ei hymestyn dros y penwythnos yn Sharm el-Sheikh yn Yr Aifft wrth i drafodaethau fethu.

Mae’r gwledydd datblygedig wedi addo ariannu rhagor o’r gronfa hinsawdd gyda'r Undeb Ewropeaidd yn cynnig cronfa newydd i helpu gwledydd tlawd i ddelio gyda’r argyfwng hinsawdd.

Mae’r gynhadledd yn rhoi cyfle i arweinwyr y byd drafod yr argyfwng newid hinsawdd.

Un o'r prif uchelgeisiau sydd wedi nodi gan y gynhadledd y llynedd yw ceisio cadw cynhesu byd eang o dan 1.5 gradd Celsius.

Mae gwledydd bregus o ran newid hinsawdd fel Pacistan yn mynnu y dylai gwledydd mwy cyfoethog dalu fwy oherwydd nhw sy’n gyfrifol am yr allyriadau sy’n creu cynhesu byd eang.

Cadarnhawyd fod llysgennad yr UDA John Kerry wedi dal Covid yn y gynhadledd.

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.