Newyddion S4C

FIFA yn 'gyfrifol' am 'drasiedïau' yn Qatar, medd mudiad hawliau dynol

Newyddion S4C 18/11/2022

FIFA yn 'gyfrifol' am 'drasiedïau' yn Qatar, medd mudiad hawliau dynol

Mae mudiad hawliau dynol rhyngwladol wedi honni bod FIFA yn "gyfrifol" am "drasiedïau" yn Qatar, gan gwestiynu dyfodol y corff fel rheoleiddiwr pêl-droed ryngwladol.

Mewn cyfweliad a Newyddion S4C, dywedodd cyfarwyddwr mudiad Fair Square, Nick McGeehan, fod angen "ail-ystyried yn radical" y ffordd y mae pêl-droed yn cael ei llywodraethu, gan alw ar "bobl mewn llefydd fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru i fynnu gwell i'r gêm".

Gyda'r twrnamaint yn dechrau ddydd Sul, mae cwestiynau eisoes wedi eu codi am ddyfarnu'r gystadleuaeth i'r wladwriaeth ddadleuol, gyda rhai sylwebwyr yn codi pryderon am gamweddau hawliau dynol honedig, amodau gweithio gwael i weithwyr mudol a chyfyngu ar ryddid unigolion yno.

Yn ôl FIFA, mae eu safbwynt ar hawliau dynol a chynwysoldeb yn "ddiamwys" ac maen nhw'n dweud eu bod wedi "gwthio i gyflwyno rheolau newydd ym maes cyflogaeth sy'n berthnasol i'r holl gwmnïau a phrosiectau ar draws y wlad ac er budd yr holl weithwyr yn Qatar".

Wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddim ymateb yn uniongyrchol i sylwadau Mr McGeehan ond fe bwysleision nhw eu bod "am ddefnyddio llwyfan Cwpan y Byd FIFA 2022 i ledu'r neges y dylai pêl droed fod i bawb, ymhob man."

'Niwed aruthrol'

Ond yn ôl Nick McGeehan, oedd yn uwch ymchwilydd i fudiad hawliau dynol Human Rights Watch am bum mlynedd, ac sydd yn ymchwilydd ac yn llefarydd dros hawliau gweithwyr mudol, fe allai FIFA fod wedi gwneud mwy i warchod hawliau gweithwyr a gwthio dros newidiadau yn Qatar.

Mae'n honni bod "miloedd" o weithwyr mudol wedi marw yn Qatar dros y ddegawd ddiwethaf.

"Fe ddylen ni gael ein harswydo gan y ffordd y mae gweithwyr mudol wedi cael eu trin, a'r ymateb i farwolaethau," dywedodd wrth Newyddion S4C.

"Y prif gonsyrn ydy eu bod wedi codi'r gystadleuaeth ar draul gweithlu gafodd ei gam-drin a'i ecsploetio, ac mae hynny wedi creu niwed aruthrol o ran colli bywydau a bywoliaeth.

"Mae 'na lawer o broblemau eraill o ran hawliau dynol yn Qatar, gan gynnwys LGBTQ+ a hawliau merched.

"Mae gan y wlad gefndir o ran hawliau dynol sy'n codi problemau mawr.  Dydy Cwpan y Byd ddim i'w weld wedi gweddnewid y sefyllfa ryw lawer o gwbwl, ac mae'n cael ei ddefnyddio i gynnal hygrededd Llywodraeth sydd ddim, debyg iawn, yn haeddu hynny.

"Roedd pawb yn gwybod am y problemau yma cyn cynnig y gystadleuaeth [i Qatar].  Roedd FIFA'n gwybod amdanyn nhw.   Roedd FIFA'n gwybod beth oedd angen ei wneud a wnaethon nhw ddim gwthio am hynny.

"Mae'r trasedïau sydd wedi dilyn wedi digwydd oherwydd y methiannau hynny gan FIFA o'r cychwyn cyntaf.

"Dwi yn meddwl y tu hwnt i Qatar, gan y bydd y sylw'n symud oddi ar Qatar, bydd angen i ni edrych ar y ffordd y mae pêl-droed yn cael ei llywodraethu ac ai FIFA ydy'r sefydliad gorau i wneud hynny?

"Ac mae angen pobol mewn llefydd fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru i godi llais a mynnu gwell o'r gêm.

"Mae angen i ni edrych o'r newydd ar y ffordd 'dan ni'n llywodraethu pêl-droed oherwydd mae'n hollbwysig i hanfod cymunedau a gwledydd."

'Gwaith i'w wneud'

Mewn datganiad diweddar, fe ddywedodd Llywodraeth Qatar fod camau wedi'u cymryd mewn blynyddoedd diweddar i wella safonau byw a gwaith gweithwyr o dramor.

Gan gydnabod bod diwygio'n waith tymor hir, dywedodd Fahad al-Mana, cynrychiolydd y Wasg Qatar i'r Deyrnas Unedig "nad ydy Qatar erioed wedi peidio â chydnabod bod 'na waith i'w wneud ar y farchnad lafur, ond rydym yn disgwyl i'r gohebu adlewyrchu'r ffeithiau fel ag y maen nhw".

"Wrth fwrw 'mlaen, mae Qatar yn benderfynol o ddal i wella'r trefniadau ym myd gwaith, a hynny'n agored gydag addewid i gydweithio."

Fe ddywedodd FIFA eu bod am y tro cyntaf yn "adolygu'r broses o ran gwarchod gweithwyr fu'n rhan o Gwpan y Byd FIFA Qatar 2022 yn unol â chyfrifoldebau FIFA mewn perthynas ag egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol a hawliau byd busnes".

"Pan fydd cwmnïau sy'n gweithio i Gwpan y Byd FIFA yn mynd yn groes i'w cyfrifoldebau, bydd Uwch Bwyllgor FIFA a Qatar yn gweithio i sicrhau bod 'na wneud iawn am y drwg, gan amlaf gan y cwmni oedd yn cyflogi'r gweithiwr dan sylw.

"Fel rhan o ymdrech yr Uwch Bwyllgor i ad-dalu ffioedd recriwtio, er enghraifft, mae gweithwyr wedi derbyn taliadau gwerth cyfanswm o $22.6 miliwn hyd at Ragfyr 2021, gydag addewid gan gontractwyr i dalu $5.7m yn rhagor."

Maen nhw'n hawlio ers i'r gwaith adeiladu ar gyfer Cwpan y Byd ddechrau yn 2014, bod gan yr Uwch Bwyllgor gofnod o dair marwolaeth yn gysylltiedig â gweithio ar safleoedd Cwpan y Byd, a 37 o farwolaethau ymhlith gweithwyr sydd ddim yn gysylltiedig â'r gwaith hwnnw.

Maen nhw'n ychwanegu bod "Qatar fel gwlad sy'n cynnal y gystadleuaeth yn hollol ymwybodol o'u cyfrifoldeb i gydymffurfio â disgwyliadau FIFA ym maes hawliau dynol, cydraddoldeb a pheidio â dilyn rhagfarn".

"Mae Qatar yn benderfynol o sicrhau y bydd modd i bawb fwynhau'r twrnamaint mewn amgylchiadau diogel a chroesawgar, gan godi pontydd o ran dealltwriaeth ddiwylliannol a chreu profiad cynhwysol i bawb sy'n bresennol, ac yn cymryd rhan, gan gynnwys aelodau o'r gymuned LGBTQ+."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.