Dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad yn Sir Ddinbych
Mae dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng car a fan yn Sir Ddinbych.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ffordd yr A5 ger Glyndyfrdwy toc cyn 06.00 ddydd Iau 20 Tachwedd wedi damwain rhwng fan Mercedes Sprinter wen a char Vauxhall Corsa gwyn.
Bu farw gyrrwr y Vauxhall Corsa yn y fan a’r lle. Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Eleri Jones o Uned Gwrthdrawiadau Difrifol Heddlu’r Gogledd: “Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau’r gyrwyr gwrywaidd fu farw yn y digwyddiad hwn.
“Hoffwn glywed gan unrhyw un a fyddai wedi gweld y gwrthdrawiad, neu sydd â lluniau dashfwrdd o’r ardal ar y pryd.”
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am unrhyw sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddyfynnu’r cyfeirnod C180024.