Cwpan y Byd: Yr aros bron ar ben i Gymru
Mae'r aros ar ben.
Ar ôl 64 mlynedd fe fydd Cymru'n chwarae eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd ers 1958, gan wynebu'r UDA yn Stadiwm Al Rayyan.
Mae'r daith wedi bod yn un anodd, gan gynnwys methiannau agos a thorcalonnus yn 1993 a 2017.
Yng nghanol y cyffro o gyrraedd Qatar, mae her enfawr yn wynebu carfan Rob Page wrth iddynt geisio dod i'r brig yn Grŵp B a chyrraedd y rowndiau terfynol.
Bydd y dynion mewn coch yn wynebu'r UDA, Iran a Lloegr, gyda'r gêm gyntaf nos Lun.
"We're telling people that Wales exists as a country..."
— FA WALES (@FAWales) November 21, 2022
Wales Away ❤️ 🏴#ArBenYByd | #FIFAWorldCup | #TheRedWall
______
Watch RedWall+ for free: https://t.co/bftuyGz5R5 pic.twitter.com/lCw3nXQ1B7
Beth allwn ni ddisgwyl?
Bydd 19:00 nos Lun yn foment hanesyddol i Gymru wrth iddynt wynebu UDA ar lwyfan mwya'r byd am y tro cyntaf ers 1958.
Er nad yw'r Americanwyr yn chwarae yn gyson, mae'r capten Christian Pulisic yn chwarae ar y lefel uchaf gyda Chelsea.
Mae yna sawl chwaraewr arall sydd â phrofiad o chwarae yn Ewrop, fel Weston McKennie gyda Juventus a Sergiño Dest gydag AC Milan. Fe allai'r ddau yma beri gofid i Gymru.
Mae Cymru yn dibynnu ar sêr sydd bellach ddim yn chwarae i rai o dimau mwyaf Ewrop, wedi i Gareth Bale symud i Los Angeles FC ac Aaron Ramsey i Nice.
Mewn cynhadledd i'r wasg yn Doha brynhawn dydd Sul fe gadarnhaodd rheolwr Cymru Robert Page na fyddai Joe Allen yn cymryd rhan y gêm gyntaf.
Wrth i'r gic gyntaf agosáu mae'r Wal Golch yn gobeithio am gystadleuaeth i'w chofio.
Bydd holl gemau Cymru yn y bencampwriaeth i'w gweld yn fyw ar S4C.
Llun: Asiantaeth Huw Evans