Cau Pont y Borth: Cyngor yn gofyn am ymateb gan fusnesau lleol

Mae Cyngor Môn yn gofyn i fusnesau ym Mhorthaethwy i roi eu barn mewn arolwg ar yr effaith y mae cau Pont y Borth wedi ei gael arnyn nhw dros yr wythnosau diwethaf.
Daw hyn yn dilyn adroddiadau fod llai yn ymweld â'r dref ers i Lywodraeth Cymru gau'r bont i draffig ar fyr rybudd ar 21 Hydref.
Yn ôl Golwg360, bwriad arolwg y cyngor fydd cryfhau'r achos am gymorth gan y llywodraeth i fusnesau sydd wedi eu heffeithio.
Darllenwch ragor yma.