Rhybudd am ostyngiad mewn safonau byw yn sgil datganiad yr hydref
Mae disgwyl i Jeremy Hunt amddiffyn ei gynlluniau economaidd wedi i arbenigwyr rybuddio y gall safonau byw ostwng yn sylweddol yn sgil datganiad yr hydref.
Fe wnaeth y Canghellor gyhoeddi ei gynlluniau economaidd ddydd Iau, gan gyflwyno cymysgedd o drethi ychwanegol a thoriadau mewn gwariant gwerth £55 biliwn.
Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR), sydd yn llunio rhagolygon economaidd i gyd-fynd gyda chynlluniau'r llywodraeth, wedi rhybuddio y gall lefelau incwm aelwydydd i wario ostwng 7.1% dros y ddwy flynedd nesaf.
Dyma'r lefel isaf ers dechrau cadw cofnod yn 1956/7 ac yn sgil cyhoeddiad Mr Hunt, fe fydd y baich treth ar ei uchaf ers yr Ail Ryfel Byd.
Mae'r OBR hefyd yn rhybuddio y gall pobl wynebu biliau uwch a diweithdra wrth i'r economi fynd i mewn i ddirwasgiad, gan ragweld y bydd yr economi yn crebachu 1.4% yn 2023.
Wrth iddo gyhoeddi datganiad yr hydref, dywedodd Jeremy Hunt ei fod yn "onest am y sialensiau" sy'n wynebu'r economi.
Dywedodd bod tair blaenoriaeth ganddo, sef "sefydlogrwydd, twf a gwasanaethau cyhoeddus".
Yn ôl Llywodraeth y DU, bydd Llywodraeth Cymru yn cael £1.2 biliwn ychwanegol yn dilyn y cyhoeddiad.
Ond mae prif weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi dweud fod y cyhoeddiad yn rhoi "pwysau pellach ar filiynau o bobl sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd gyda'r argyfwng costau byw".