Trychineb MH17: Dedfrydu tri i garchar am oes yn eu habsenoldeb

Mae llys yn Amsterdam yn yr Iseldiroedd wedi dedfrydu tri dyn i garchar am oes yn eu habsenoldeb ar ôl eu cael yn euog o lofruddio 298 o bobl.
Daeth y llys i'r casgliad fod y tri dyn - dau o Rwsia ag un o Wcráin - yn gyfrifol am lofruddio 298 o bobl oedd yn teithio ar awyren MH17 o Amsterdam i Kuala Lumpur ar 17 Gorffennaf, 2018.
Cafodd yr awyren ei saethu i'r ddaear uwchben dwyrain Wcráin gan filwyr oedd yn deyrngar i Rwsia ac oedd wedi cipio'r rhanbarth ar y pryd.
Fe gafodd y llys Igor Girkin, Sergei Dubinsky a Leonid Kharchenko oll yn euog o fod yn gyfrifol am chwarae eu rhan yn saethu taflegrau BUK at yr awyren.
Fe gafwyd pedwerydd dyn, Oleg Pulatov, yn ddieuog o'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Mae'r tri dyn euog yn parhau yn Rwsia a bach iawn o obaith sydd i deuluoedd y rhai fu farw o weld y dynion dan glo, gan nad yw Rwsia yn caniatáu i'w dinasyddion gael eu hestraddodi.
Darllenwch ragor yma.