Costau byw: Lleoliadau ar draws Ceredigion yn cynnig 'Mannau Croeso Cynnes'
Mae nifer o sefydliadau ar draws Ceredigion yn cynnig cymorth i bobl yn wyneb yr argyfwng costau byw mewn 'Mannau Croeso Cynnes' am y tro cyntaf.
O'r Llyfrgell Genedlaethol i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae nifer o leoliadau ar draws y sir yn cynnig lle i bobl i gyfarfod am ddim mewn cynhesrwydd medd Cyngor Sir Ceredigion.
Dywed y cyngor fod pob gofod yn amrywio, gyda rhai yn cynnig dod â rhieni â phlant ifanc a phobl hŷn at ei gilydd i gymdeithasu a rhannu pryd o fwyd.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig ardal weithio i unigolion weithio mewn swyddfa am y diwrnod tra bod Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig ardal i weithio ynghyd ag ardal lle gall pobl gwrdd yn anffurfiol dros baned ar ei champws yn Llanbed.
Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Ceredigion: “Rydym yn gweithio gyda CAVO i wneud i hyn lwyddo, ond sêr y stori hon yw pob un o’r grwpiau cymunedol ar draws Ceredigion sy’n cynnig Man Croeso Cynnes y gaeaf hwn. Rwy’n argymell bod pawb yn edrych ar y map rhyngweithiol sy’n dangos ble gallwch chi ddod o hyd i’ch Man Croeso Cynnes agosaf ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar i bawb sy’n cefnogi’r ymgyrch hon.”
Dywedodd Hazel Lloyd-Lubran, Prif Weithredwr CAVO: “Rydym yn annog grwpiau cymunedol i gysylltu â ni yn CAVO i drafod sefydlu Man Croeso Cynnes ac unrhyw ofynion ariannu a allai fod gennych.
"Rydym hefyd wedi bod yn siarad â Bwcabus sy’n awyddus i helpu i ddod â phobl i’r Mannau Croeso Cynnes, yn enwedig o’n hardaloedd mwy gwledig yn y Sir.”