O 'gyni' i'r 'clo triphlyg': Canllaw i dermau datganiad yr hydref
Wrth i'r esgid wasgu ar deuluoedd ar hyd a lled y wlad, mae datganiad yr hydref gan y Canghellor Jeremy Hunt ddydd Iau yn golygu rhagor o gyni i filiynau o bobl wrth i drethi godi.
Gobaith y Canghellor wrth gyhoeddi'r datganiad fydd ffrwyno chwyddiant a rheoli bethnyciadau ariannol y llywodraeth.
Ond gyda phob cyhoeddiad economaidd, mae yna nifer o dermau sydd yn cael eu defnyddio heb lawer o esboniad.
Mae Newyddion S4C wedi edrych ar y termau sydd wedi'u hymchwilio amlaf ar y we gan y cyhoedd ar drothwy'r datganiad diweddaraf, er mwyn taflu ychydig o oleuni ar y termau hyn.
Beth yw cyni?
Wrth i'r Canghellor droi ei gefn ar bolisïau trethi isel y cyn brif weinidog Liz Truss, mae nifer yn rhagweld bod y llywodraeth yn dychwelyd i bolisi o gyni, neu 'austerity' yn Saesneg.
Mae polisïau cyni yn ceisio rheoli dyled y wlad trwy godi trethi, torri gwariant neu gymysgedd o'r ddau. Pwrpas cyni yw ceisio sicrhau bod gwariant y llywodraeth yn debyg iawn i'w hincwm.
Fe gafodd y polisi hwn ei ddefnyddio gan David Cameron pan ddaeth i rym ar ôl yr argyfwng ariannol yn 2008. Fe wnaeth cynlluniau Mr Cameron a'i Ganghellor, George Osbourne, dderbyn cryn dipyn o feirniadaeth ar y pryd wrth i doriadau gael effaith sylweddol ar wasanaethau cyhoeddus.
Mae'n ymddangos nad yw datganiad yr hydref yn bolisi o gyni llym, gan y bydd gwariant y llywodraeth yn parhau yn uwch na'i incwm, ond mae nifer wedi gweld tebygrwydd agos rhwng cyni a'r cyhoeddiad diweddaraf.
Treth ar hap, neu dreth annisgwyl
Mae treth ar hap ('windfall tax') yn dreth sydd yn cael ei gosod ar gwmnïau sydd wedi gwneud elw sylweddol yn sydyn o ganlyniad i ddatblygiadau tu hwnt i'w rheolaeth.
Un sector sydd wedi elwa o ddatblygiadau byd eang yn ddiweddar yw cwmnïau ynni - gan fod y rhyfel yn Wcráin a'r pandemig Covid wedi cynyddu'r galw am ynni.
O ganlyniad mae'r cwmnïau wedi gweld cynnydd sylweddol mewn elw wrth i'r marchnadoedd newid o'u plaid ac wrth i'r galw am gyflenwadau gynyddu.
Beth yw Yswiriant Gwladol?
Math o dreth ar gyflogau yw Yswiriant Gwladol.
Mae gweithwyr a chyflogwyr yn talu Yswiriant Gwladol er mwyn talu am rhai o brif elfennau'r Wladwriaeth Les, fel y gwasanaeth iechyd, budd-daliadau a phensiynau.
Yn ddiweddar, cafodd cyfraddau Yswiriant Gwladol eu cynyddu gan Boris Johnson er mwyn talu mwy am y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol.
Rhwng 6 Ebrill a 5 Tachwedd eleni, roedd y gyfradd Yswiriant Gwladol yn 13.25% i'r rhan fwyaf o bobl, gyda'r rhai oedd yn ennill y cyflogau uwch (dros £4,189 y mis) yn talu 3.25% yn ychwanegol.
Cafodd y codiad yma ei ddadwneud yng nghyllideb fechan Liz Truss, gan olygu bod cyfraddau bellach wedi dychwelyd i 12% a 2%.
Nid yw Jeremy Hunt wedi gwneud unrhyw newidiadau i'r polisi yma yn ei ddatganiad, gan fod y ddeddfwriaeth eisoes wedi'i phasio.
Beth yw isafswm cyflog a chyflog byw?
Yr isafswm cyflog cenedlaethol ('national minimum wage') yw'r cyflog isaf y gall cyflogwr ei dalu yn gyfreithiol i weithiwr sydd o dan 23 oed.
Mae'r gyfradd yn wahanol yn dibynnu ar oedran, gyda phobl o dan 18 yn ennill o leiaf £4.81 yr awr, tra bod pobl 21 a 22 oed yn ennill £9.81 yr awr.
Y cyflog byw yw'r cyflog isaf y gall cyflogwyr ei dalu i bobl sy'n 23 ac yn hŷn. Y syniad yw bod yn rhaid i bobl hŷn dderbyn mwy gan fod eu gwariant cymaint yn uwch o gymharu gyda phobl sydd o dan 18 oed.
Roedd y cyflog byw yn £9.50 yr awr, ond fe fydd yn cynyddu i £10.40 yr awr o fis Ebrill y flwyddyn nesaf yn dilyn cyhoeddiad y Canghellor.
Beth yw'r pensiwn clo triphlyg?
Mae'r pensiwn clo triphlyg yn cyfeirio at bensiwn y wladwriaeth y mae pawb yn ei dderbyn ar ôl ymddeol.
Mae'r 'clo triphlyg' yn golygu y dylai'r pensiwn gynyddu bob blwyddyn yn unol ag un o dair ffactor wahanol, yn dibynnu ar ba un sydd uchaf.
Y tair ffactor yn y clo triphlyg yw chwyddiant, y cynnydd ar gyfartaledd yng nghyflogau'r DU, neu'r gyfradd o 2.5%.
Cafodd y pensiwn clo triphlyg ei gyflwyno yn 2010, gyda'r bwriad o sicrhau nad oedd costau byw cynyddol yn gwneud pethau'n anoddach i bobl sydd wedi ymddeol.
Yn sgil datblygiadau economaidd diweddar, roedd rhai wedi rhagweld y gallai'r clo triphlyg gael ei diddymu, ond ni wnaeth Jeremy Hunt gyhoeddi hyn yn ei ddatganiad ac felly fe fydd y clo triphlyg yn parhau am y tro.