Y Gweriniaethwyr yn cipio rheolaeth o Dŷ’r Cynrychiolwyr

Mae'r Blaid Weriniaethol wedi ail-gipio rheolaeth o Dŷ'r Cynrychiolwyr yn dilyn etholiadau canol tymor yr UDA.
Cafodd yr etholiadau ar gyfer y Tŷ a rhannau o'r Senedd eu cynnal wythnos ddiwethaf, ac maent yn cael eu hystyried fel llinyn mesur o boblogrwydd yr Arlywyddiaeth Joe Biden.
Mae bellach wedi'i gadarnhau y bydd y Gweriniaethwyr yn ennill dros 218 sedd yn y Tŷ gan sicrhau mwyafrif, gan olygu y gall yr Arlywydd Biden ei chael hi'n anodd i gyflawni rhai o'i bolisïau dros weddill ei gyfnod mewn grym.
Roedd nifer o sylwebwyr gwleidyddol wedi rhagweld buddugoliaeth fwy sylweddol i'r Gweriniaethwyr yn ystod yr etholiadau, gan honni bod 'ton goch' ar y ffordd.
Ni wnaeth y don honno dorri yn y pen draw, gyda'r Gweriniaethwyr yn methu a chipio'r Senedd ac yn dal mwyafrif bach iawn yn y Tŷ.
Darllenwch fwy yma.
Llun: NATO