Parc Cenedlaethol Eryri i ddefnyddio 'Eryri' a'r 'Wyddfa' mewn gohebiaeth Saesneg
Mae aelodau o bwyllgor Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi pleidleisio o blaid defnyddio 'Eryri' ac 'Yr Wyddfa' pan yn gohebu'n Saesneg.
Ers mis Mehefin 2021, mae deiseb wedi cael ei harwyddo gan dros 5,000 o lofnodion er mwyn "ffurfioli'r defnydd o'r enwau Cymraeg Eryri ac Yr Wyddfa."
Mae'r defnydd o'r enwau Cymraeg yn y Saesneg wedi dod yn fwy cyffredin ers ychydig o flynyddoedd, gyda'r Awdurdod yn defnyddio'r enwau Cymraeg mewn llawer o gyhoeddiadau, gyda'r enw Saesneg yn cael ei ychwanegu mewn cromfachau.
Dywedodd Pennaeth Treftadaeth Ddiwylliannol Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Naomi Jones, fod hyn yn "hynod galonogol, ac yn rhoi hyder i ni y bydd y newid hwn yn ein hymdriniaeth ni â’r enwau yn cael ei dderbyn er budd dyfodol yr iaith Gymraeg a pharch i’n treftadaeth ddiwylliannol.
"Trwy arddel yr enwau Cymraeg ar ein nodweddion tirweddol mwyaf nodedig rydym yn rhoi cyfle i bobl o bob cwr o’r byd ymgysylltu â’r iaith Gymraeg a’i diwylliant cyfoethog."