
Qatar: Canllaw cyflym i gefnogwyr Cymru
Bydd holl sylw'r byd yn troi at Qatar dros y mis nesaf wrth i'r wlad gynnal cystadleuaeth Cwpan y Byd 2022 yno.
Roedd gwobrwyo'r gystadleuaeth i'r wlad yn benderfyniad dadleuol, ac mae nifer o bobl yn anhapus gyda'r dewis o gynnal cystadleuaeth chwaraeon fwya'r byd yno oherwydd rheolau'r wlad ar ryddid barn, rhywioldeb a'i record hawliau dynol.
Ychydig iawn a wyddai pobl am Qatar pan benderfynodd FIFA mai'r wlad hon fyddai'n cynnal Cwpan y Byd nôl yn 2010.
Felly beth yn union yw hanes y wlad fechan a chyfoethog hon?
Ar drothwy'r gystadleuaeth bêl-droed fyd enwog - dyma ganllaw cyflym i'r cefnogwyr lwcus fydd yn teithio yno, a'r rhai llai ffodus fydd yn gwylio o gartref:
Poblogaeth a diwylliant
Mae Qatar yn wlad sydd wedi ei lleoli ar Benrhyn Arabia, rhwng Yr Emiradau Arabaidd Unedig a Bahrain, ger Saudi Arabia.
Poblogaeth y wlad yw tua 2,800,000, a phrif grefydd y wlad ydy Islam, er bod tua 15% o bobl y wlad yn Hindŵ ac 14% yn Gristnogion.
Arian y wlad y'r Riyal Qataraidd ac mae un Riyal yn werth 23 ceiniog. Y cyflog misol ar gyfartaledd yn y wlad yw oddeutu $3600 y mis.

Mae cyfreithiau'r wlad wedi eu sefydlu ar werthoedd Islamaidd, ac mae Diwrnod Cenedlaethol Qatar yn cael ei gynnal ar 18 Rhagfyr, er mwyn nodi'r dydd pan gafodd holl lwythau'r wlad eu huno yn 1878.
Bydd y dathliad eleni yr un diwrnod a rownd derfynol Cwpan y Byd, ac fe fydd ysgolion ar gau a gwyliau gyhoeddus i boblogaeth y wlad.
Yn ogystal â'r dathliad yma mae Gŵyl Diwylliant Doha yn cael ei chynnal yn flynyddol gyda'r nod o ledaenu diwylliant y wlad tu fewn a thu allan i Qatar.
Hanes
Yn dilyn cyfnod dan reolaeth Bahrain a Saudi Arabia ac yna'r Ymerodraeth Otomanaidd, fe ddaeth Qatar dan reolaeth y Deyrnas Unedig rhwng 1916 ac 1971.
Fe wnaeth y DU arwyddo cytundeb gyda'r Sheikh Abdullah bin Jassim Al Thani, Emir Qatar, yn 1916 oedd yn gwneud Qatar yn Ddiffynwlad Brydeinig.
Golyga hyn nad oedd Qatar i gynnal trafodaethau na chytundebau gyda gwledydd eraill, a byddai'r DU yn cynnig amddiffyniad morol i Qatar.
Yn 1935, pan ddarganfuwyd olew yn y wlad, fe wnaeth Qatar a'r DU arwyddo ail gytundeb er mwyn amddiffyn Qatar rhag bygythiadau mewnol ac o dramor, gan alluogi Prydain i fewnforio'r olew o'r wlad.
Roedd y cytundeb hwn mewn grym tan 1971, cyn i Qatar ddod yn wlad annibynnol yn dilyn cytundeb newydd rhwng arweinydd Qatar a Llywodraeth y DU.
O ganlyniad i ddarganfod olew yn y wlad, fe gafodd Qatar ei datblygu'n sylweddol dros y degawdau yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif - gydag adeiladau a thrafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu datblygu yno mewn cyfnod cymharol fyr.
Yn 1990-91, chwaraeodd Qatar ran arwyddocaol yn Rhyfel y Gwlff, gan gynnig cymorth milwrol i Saudi Arabia, er na wnaeth y wlad ymuno yn y rhyfel yn swyddogol.
Gwleidyddiaeth
Mae Qatar yn frenhiniaeth rhannol-gyfansoddiadol, sydd yn golygu bod gan y Brenin, Emir Qatar, rym arwyddocaol ond nid swyddogol yng ngwleidyddiaeth y wlad.
Ers 2013, Tamin bin Hamad Al Thani ydy Emir Qatar, ac mae ei deulu wedi bod yn deulu brenhinol ar Qatar ers 1825.
Mae gan yr Emir y grym i ddewis prif weinidog y wlad a'r cabinet. Rhain yw holl aelodau'r Cyngor o Weinidogion.
Y Cynulliad Ymgynghorol yw Senedd y wlad, sydd yn cynnwys 30 aelod, gyda 15 ohonynt yn cael eu dewis gan yr Emir.
Mae ganddynt y grym i atal deddfau rhag cael eu cymeradwyo trwy bleidlais fwyafrifol, ac yn gallu diswyddo gweinidogion, gan gynnwys y prif weinidog gyda phleidlais o ddau draean o fwyafrif.
Nid yw cyfreithiau'r wlad yn caniatáu bodolaeth pleidiau gwleidyddol nac undebau llafur.