Dominic Raab yn galw am ymchwiliad i'w ymddygiad yn dilyn cwynion swyddogol

16/11/2022
Dominic Raab, Ysgrifennydd Cyfiawnder
Prif Weinidog DU

Mae Dominic Raab wedi gofyn am ymchwiliad i'w ymddygiad fel gweinidog yn San Steffan yn dilyn dwy gŵyn swyddogol yn ei erbyn.

Mae'r dirprwy brif weinidog wedi ysgrifennu llythyr at y prif weinidog Rishi Sunak yn gofyn am ymchwiliad annibynnol i'r cwynion, gydag un cwyn yn cyfeirio at ei gyfnod fel ysgrifennydd tramor a'r llall pan oedd yn ysgrifennydd dros gyfiawnder.

Yn y llythyr, sydd wedi ei gyhoeddi ganddo ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd: "Dwi'n edrych ymlaen at fynd i'r afael â'r cwynion, a pharhau i wasanaethu fel Dirprwy Prif Weinidog, Ysgrifennydd Tramor, ac Arglwydd Ganghellor."

Bydd y AS dros Esher a Walton yn wynebu cwestiynau gan ASau yn sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog ar ran Rishi Sunak ddydd Mercher.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.