Yr argyfwng costau byw yn gwasgu ar gyllideb aelwyd o Ddinbych
Gyda Chyllideb yr Hydref yn cael ei chyhoeddi ddydd Iau, mae disgwyl i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi rhagor o doriadau yn ogystal â chodi trethi, gan effeithio ar gyllidebau aelwydydd miliynau o bobl.
Er bod Iwan a Bev Jones o Ddinbych yn gweithio'n galed, mae'r argyfwng costau byw yn gwasgu.
“Mae pres yn mynd cyn gyntad a mae o’n cyrraedd” meddai Iwan.
“Gas un diwrnod, 'letric diwrnod wedyn, gas eto diwrnod ar ôl diwrnod mae o jest yn mynd a mynd a mynd.”
Weldiwr llawn amser ydi Iwan, a Bev ei bartner yn gweithio mewn cegin ysgol.
Maen nhw’n cael lwfans teulu a chredyd treth ond maen nhw’n ei chael hi’n anodd.
Mae Iwan yn cael ei gyflog ar brynhawn Gwener ac erbyn dydd Sadwrn “mae o i gyd wedi mynd.”
“Gen ti rent i’w dalu, gas, letric, car i redag. Mae popeth yn ddrud ddrud ddrud.”
Wrth i gostau gynyddu, dydy cyflogau ddim, yn ôl Bev.
"Tyda ni ddim yn sôn am geiniogau, mae’r prisiau yn codi llawer mwy na hynny,” meddai.
"Mae o fel petai chi’n mynd i’r gwaith, ond wedyn sgen i’m syniad lle ma’r arian i gyd yn mynd.”
Mesurydd talu-wrth-fynd sydd yn y tŷ, ac mae’r cwpl yn tybio eu bod nhw’n gwario dros £250 y mis.
Yn ystod yr wythnos waith a gyda'r plant yn yr ysgol, mae Iwan yn dweud eu bod nhw’n gwario tua £8 bob dydd ar nwy a thrydan, ond ar benwythnosau mae eu defnydd yn cynyddu.
“Mae yna fwy o fwyd yn cael ei fwyta, mae na fwy o letric, mae yna fwy o gas.”
Fel teulu, mi roedden nhw’n arfer coginio llawer o fwyd cartref gan ddefnyddio llysiau ffresh, ond erbyn hyn maen nhw wedi diffodd y popty yn gyfan gwbl, a bellach yn dibynnu ar beiriant ffriwr aer, sy’n defnyddio llai o drydan.
Mae pawb yn y tŷ yn ceisio arbed ynni, gan gynnwys Gwion sy'n 14 oed.
“'Da ni yn troi y golau off pan 'da ni ddim mewn ‘stafell," meddai.
"A 'da ni yn cofio cau drysau er mwyn neud yn siwr fod y llofftydd yn gynnes amser gwely."
Mae’r plant yn mynd i siopa bwyd efo eu rhieni, ond yn sylwi nad ydyn nhw yn cael prynu gymaint ag yr oedden nhw.
“Oeddan ni yn cael fel 5 neu 4 o fagiau, rwan 'da ni ond yn cael tri neu ddau,” meddai Sioned sy'n 12 oed.
Wrth i wleidyddion San Steffan fynd ati i gael trefn ar y cyfrifon, mae 'na deuluoedd yn trio gwneud yr un fath drwy Gymru.
“Does na’m pwynt codi ffrae, does na’m pwynt gwylltio. Does ’na’m byd yn mynd i newid. Nawn nhw byth gwrando arna ni," meddai Iwan.
“Yr unig beth nawn nhw ydi brwshio ni dan y llawr, as long as bod nhw yn iawn yn y top. Maen nhw’n anghofio am y pobol bach fatha ni.”