Newyddion S4C

Ryan a Rob erioed wedi dychmygu cael eu 'croesawu cymaint yn niwylliant Cymru'

16/11/2022

Ryan a Rob erioed wedi dychmygu cael eu 'croesawu cymaint yn niwylliant Cymru'

Mae perchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam, Rob McElhenney a Ryan Reynolds wedi dweud nad oedden nhw'n disgwyl cael eu croesawu a'u trochi cymaint yn niwylliant Cymru. 

Er bod y ddau yn berchnogion Wrecsam, mae cael eu croesawu gan genedl Cymru yn ei chyfanrwydd wedi bod yn annisgwyl i'r ddau. 

"Nid i'r lefel yma, na," meddai Rob. 

"Roeddem ni wastad yn gwybod y byddem ni'n cael ein trochi yn Wrecsam. Ond doeddwn i ddim yn gallu gweld y darlun mwy wrth ystyried Cymru yn ei chyfanrwydd a'i diwylliant, a diwylliant mor arbennig hefyd. Roedd o'n annisgwyl," ychwanegodd Ryan. 

Ychwanegodd Rob ei bod hi'n bwysig ar gyfer eu cyfres ddogfen 'Welcome to Wrexham' fod yna raglen benodol yn canolbwyntio ar Gymru a'i diwylliant a'r "iaith yn benodol."

"Mae ganddi hanes mor gyfoethog ac roedd mor bwysig i'r clwb i wneud hyn gan y byddai gwneud unrhyw beth llai yn golygu y byddem ni'n diystyru ein dyletswydd," meddai Rob. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.