Newyddion S4C

Ymgyrchwyr amgylcheddol yn ymosod ar ddarlun gan yr artist Gustav Klimt

Klimt

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol wedi ymosod ar ddarlun drudfawr gan yr artist Gustav Klimt mewn amgueddfa yn Fienna, Awstria.

Fe wnaeth dau ddyn sydd yn aelodau o fudiad 'Cenhedlaeth Olaf Awstria' dywallt hylif du ar y darlun ddydd Mawrth.

Mewn datganiad ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd y mudiad mai'r bwriad oedd protestio yn erbyn ffynonellau olew a nwy.

Ni chafodd y gwaith celf ei ddinistrio gan fod haen o wydr yn ei amddiffyn.

Fe ddaw'r ymosodiad diweddaraf yn dilyn nifer o achosion tebyg gan ymgyrchwyr amgylcheddol eraill dros yr wythnosau diwethaf.

Fis yn ôl fe wnaeth protestwyr ymgyrch 'Just Stop Oil' daflu cawl tomato ar ddarlun enwog gan Vincent van Gogh yn y Galeri Genedlaethol yn Llundain. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.