Diwrnod cyntaf Tîm Pêl-droed Cymru yn Qatar
Bydd Tîm Pêl-droed Cymru yn treulio eu diwrnod cyntaf yn Qatar ddydd Mercher.
Fe wnaeth carfan Rob Page adael Maes Awyr Caerdydd brynhawn Mawrth gan gyrraedd Qatar yn hwyr yn y nos.
Bydd y chwaraewyr yn cymryd rhan mewn digwyddiad Ymrwymiad Cymunedol FIFA lle byddant yn cyfarfod â phlant lleol.
Welcome to Qatar @FAWales 🏴 #Qatar2022 #WorldCup pic.twitter.com/1T9rNS7XYH
— Road to 2022 (@roadto2022en) November 16, 2022
Dydd Iau fydd y diwrnod cyntaf i'r garfan gymryd rhan mewn sesiwn hyfforddi yn y wlad.
Bydd Cymru yn wynebu UDA yn eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd ddydd Llun, cyn herio Iran a Lloegr ar 25 Tachwedd a 29 Tachwedd.
Dyma'r tro cyntaf i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd ers 1958.