Taflegrau'n taro dinasoedd ar hyd a lled Wcráin
Mae nifer o ddinasoedd yn Wcráin wedi dioddef ymosodiadau gan daflegrau lluoedd Rwsia ddydd Mawrth, gan gynnwys y brif ddinas Kyiv.
Roedd adroddiadau fod taflegrau wedi taro dinasoedd Kharkiv a Lviv hefyd, ac fe ddywedodd maer Kyiv, Vitali Klitschko, fod dau adeilad wedi ei ddifrodi yn ardal Pechersk o'r ddinas.
Dywedodd arlywydd y wlad, Volodymyr Zelensky, fod disgwyl rhagor o ymosodiadau dros y dyddiau nesaf.
Hyd yma mae 100 o daflegrau wedi glanio ac mae cyflenwadau trydan mewn nifer o ardaloedd wedi eu heffeithio o ganlyniad i'r ymosodiadau diweddaraf.
Yn gynharach ddydd Mawrth fe wnaeth yr Arlywydd Zelensky annerch cyfarfod cynhadledd y G20 dros gyswllt fideo - gan gyfeirio at gyfarfod y G19.
Ei fwriad wrth gyfeirio at y G19 yn lle'r 20 aelod o'r gynhadledd oedd anwybyddu presenoldeb Rwsia a Gweinidog Tramor y wlad honno yn y gynhadledd yn Bali, sef Sergei Lavrov.
Mae disgwyl i arweinwyr y G20 gyhoeddi datganiad ar y cyd yn beirniadu'r rhyfel yn Wcráin, gan ddatgan fod y sefyllfa yn creu ansefydlogrwydd economaidd byd eang.