Newyddion S4C

Ymgyrchwyr Covid-19 yn hedfan baner dros leoliad y rhaglen I'm a Celebrity

15/11/2022
I'm a Celeb

Mae ymgyrchwyr Covid-19 wedi hedfan baner dros y jwngl yng nghyfres I'm a Celebrity... Get Me Out of Here!

Ymysg y cystadleuwyr ar y gyfers eleni mae'r cyn-ysgrifennydd iechyd Ceidwadol Matt Hancock.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd mudiad Covid-19 Bereaved Familes for Justice UK nad yw Mr Hancock yn "berson enwog, mae'n gyn ysgrifennydd iechyd yn ystod y cyfnod pan dioddefodd y DU un o'r cyfraddau marwolaethau uchaf yn y byd gan hefyd dorri y rheolau ei hun.

"Dylai fod yn gweithio yn y DU yn gyrru ebyst yn hytrach na cael ei wobrwyo gyda swm o £400,000 am beidio gwneud ei swydd."

Daw hyn wedi i Mr Hancock ddweud fod y cyfnod ar ôl gorfod ymddiswyddo wedi bod yn "anodd iawn" iddo.

Cafodd Mr Hancock berthynas gyda menyw arall er ei fod yn briod cyn ymddiswyddo, gyda rhai yn honni iddo dorri rheolau ymbellhau'n gymdeithasol ar y pryd.

Llun: Covid-19 Bereaved Familes for Justice UK

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.