Michelle Obama yn 'casáu' ei hedrychiad 'trwy'r amser'

Mae Michelle Obama wedi dweud ei bod yn "casáu" ei hedrychiad "trwy'r amser".
Yn ei llyfr newydd mae gwraig cyn arlywydd yr UDA yn dweud bod yna "sawl bore" pan mae yn rhoi'r golau ymlaen yn yr ystafell ymolchi ac eisiau ei ddiffodd yn syth ar ôl edrych yn y drych.
Mae hefyd yn dweud bod ei thaldra wastad wedi ei gwneud yn ansicr a'i bod wedi cael ei "effeithio yn ysgafn" gan iselder yn ystod cyfnod Covid-19.
Cafodd ei llyfr cyntaf ei gyfieithu i fwy na 50 o ieithoedd ac mae dros 17m o gopïau wedi eu gwerthu.
Darllenwch ragor yma.