Newyddion S4C

'Cymru am byth': Anrhydeddu Ryan Reynolds a Rob McElhenney mewn cyngerdd yn Efrog Newydd

15/11/2022

'Cymru am byth': Anrhydeddu Ryan Reynolds a Rob McElhenney mewn cyngerdd yn Efrog Newydd

Fe wnaeth yr actorion Rob McElhenney a Ryan Reynolds fynychu cyngerdd arbennig yn Efrog Newydd nos Lun, gan dderbyn gwobr am eu cyfraniad at ddiwylliant Cymru.

Fel rhan o'r cyngerdd, cafodd Reynolds a McElhenney eu gwobrwyo gyda gwobr 'Diolch y Ddraig' er mwyn cydnabod eu cyfraniad at hybu diwylliant Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.

Roedd y cyngerdd wedi ei drefnu ar y cyd rhwng S4C, Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Bêl-Droed Cymru fel rhan o'r dathliadau ar drothwy Cwpan y Byd.

Mae'r ddau actor wedi'u canmol am eu hymdrechion gyda'r Gymraeg a diwylliant Cymru ers dod yn berchnogion ar glwb pêl-droed Wrecsam, gan roi sylw byd-eang i'r wlad a dinas Wrecsam drwy eu rhaglen ddogfen 'Welcome to Wrexham'.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Rob McElhenney mai'r anrhydedd fwyaf oedd eu profiadau yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Dywedodd Ryan Reynolds mai eu crefft oedd adrodd straeon, ac roeddynt yn falch o fod wedi derbyn ymddiriedaeth pobl Wrecsam a chenedl Cymru "i ddweud eich stori."

Ychwanegodd yn Gymraeg: "Cymru am byth" - "and up the Town forever Rob."

Wrth siarad cyn y gyngerdd â Newyddion S4C, dywedodd Rob McElhenney nad oedd o'n disgwyl ymateb mor arbennig i'w ymdrechion gyda Wrecsam.

"Y gwir yw pan ddechreuon ni'r prosiect yma, doedd gennym ni ddim syniad o'r ymateb o'n i mynd i gael gan y dref, y rhanbarth na'r genedl gyfan."

Image
Rob McElhenney
Dywedodd Rob McElhenney fod ymateb Cymru i'w ymdrechion gyda Wrecsam wedi bod yn "anhygoel"

"Mae wedi bod yn anrhydedd dros y blynyddoedd diwethaf, i gyd yn dod at ei gilydd gyda hwn [y cyngerdd]."

"Mae wedi bod yn anhygoel - gwireddu breuddwyd."

'Dathlu ein Cymreictod'

Roedd nifer o sêr Cymru hefyd yn rhan o'r cyngerdd gafodd ei gynnal yn neuadd Sony Hall yn Times Square.

Yn ôl S4C, bwriad y cyngerdd, fydd yn cael ei ddarlledu noson cyn gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd yn erbyn yr UDA, yw codi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.

Dywedodd y sêr oedd yn bresennol yn y cyngerdd ei bod yn bwysig i arddangos yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig ar y llwyfan rhyngwladol.

"Dwi meddwl bod e'n bwysig tu hwnt bod ni'n dathlu ein Cymreictod," meddai'r actor Ioan Gruffudd, a oedd yn arwain y cyngerdd.

"Ac yn dathlu ein talentau ni ac yn mynd a'n talentau ni ledled y byd ac i bobl weld pa mor dalentog ydym ni."

Image
Ioan Gruffudd a'i wraig Bianca
Yr actor Ioan Gruffudd oedd yn arwain y cyngerdd yn Times Square

Ychwanegodd Syr Bryn Terfel, a wnaeth gloi'r cyngerdd, fod bod yn llysgennad i Gymru yn "swydd mae rhywun yn cario gyda balchder."

"Braf iawn cael bod yma, yn enwedig mewn amser mor gyffrous a da ni wrth gwrs yng nghuriad calon cerddoriaeth yn Efrog Newydd."

Roedd y gantores Katherine Jenkins hefyd yn bresennol yn y cyngerdd. Dywedodd wrth Newyddion S4C ei bod yn "hynod o bwysig" i ddangos talentau Cymru i weddill y byd.

"Rydym yn wlad mor dalentog a dwi'n meddwl mae'n hynod o bwysig i ni ddangos gweddill y byd be sydd gennym i'w gynnig," meddai.

“Dwi'n meddwl bod cael y digwyddiadau yma pryd da ni'n dangos pobl beth ni'n gallu wneud yn rili bwysig."

Yn ôl prif weithredwr S4C, Sian Doyle, roedd presenelodeb Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn y cyngerdd yn amhrisiadwy.

"Mae faint o sŵn sydd mynd i fod o'r ffaith bod Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn mynd i fod yma, os nad ydy pobl yn gwybod am Gymru ar ôl hwn, dwi ddim yn gwybod pryd.

"Mae cael gwneud hwnna a dangos Cymru i bawb, ac mae'n fraint i S4C i fod yn rhan o'r digwyddiad." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.