Cynnal adolygiad barnwrol i bolisi addysg rhyw Llywodraeth Cymru
Cynnal adolygiad barnwrol i bolisi addysg rhyw Llywodraeth Cymru
Bydd adolygiad barnwrol yn cael ei gynnal yn yr Uchel Lys ddydd Mawrth yn ymwneud â pholisi addysg rhyw Llywodraeth Cymru.
Mae Côd Addysg Rhyw a Pherthnasedd newydd Cymru wedi bod yn bwnc dadleuol.
Yn ôl gwrthwynebwyr mae agweddau o'r cwricwlwm yn anaddas i blant ysgolion cynradd.
Ond mae Llywodraeth Cymru wedi mynnu y bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei ddysgu mewn ffordd addas sydd yn cyd-fynd ag oedran disgyblion.
Mae’r côd addysg - sy’n rhan o’r cwricwlwm i Gymru gyfan - yn cyflwyno plant i wahanol fath o berthnasau, datblygiad y corff, rhywedd a rhywioldeb, a diogelwch mewn perthynas.
Mae Public Child Protection Wales yn fudiad sydd yn gwrthwynebu'r côd addysg rhyw newydd, ac maent yn cynrychioli dros 5,000 o rieni ac aelodau teulu.
'Amrywiaeth o bobl' yn gwrthwynebu
Ym mis Mai, caniatawyd iddynt gynnal adolygiad barnwrol i ddiwygiadau Llywodraeth Cymru.
Mae Susan Williams yn aelod o PCP Wales yn ogystal â bod yn aelod o grŵp Cristnogol sy'n dadansoddi'r côd addysg newydd.
Dywedodd wrth Newyddion S4C fod PCP Wales yn "glymblaid. Mae ganddom ni Gristnogion, mae ganddom ni Fwslemiaid, pobl sydd ddim â ffydd, ma' 'na bobl LGBT yn rhan o hyn.
"Mae o'n amrywiaeth enfawr o bobl sydd yn poeni am blant yn cael eu dysgu materion sydd ar gyfer oedolion, a dyna ydi ein pryder ni a'r pwyslais sydd ar ddiogelu plant."
Ychwanegodd Ms Williams fod y mudiad yn grŵp "sydd isio bod plant yn cael eu diogelu, ond 'dan ni ddim yn teimlo mai mynd y ffordd yma o'i chwmpas hi ydi'r ffordd gywir.
"Nid jest un wers yr wythnos am rywioldeb, rhywedd a rhyw. 'Dach chi'n mynd i rywioli plant."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
“Mae hyn yn ymwneud â sicrhau’r canlyniadau gorau i bob dysgwr a’u cymunedau: i’w hamddiffyn a’u cadw’n ddiogel. Mae tystiolaeth yn dangos y gall ACRh, er enghraifft, helpu dysgwyr gyda dealltwriaeth a chyfranogiad mewn perthnasoedd iach o bob math; lleihau pob math o fwlio yn ogystal â chefnogi dysgwyr i adnabod a cheisio cymorth ar gyfer perthnasoedd o gam-drin neu berthnasoedd heb fod yn iach.
“Dim ond pynciau sy’n briodol i’w hoedran a’u datblygiad fydd y disgyblion yn eu dysgu. Bydd plant iau, er enghraifft, yn cael eu haddysgu am drin ei gilydd gyda charedigrwydd ac empathi."