Rhybudd melyn am law i ran helaeth o'r wlad
15/11/2022
Mae rhybudd melyn wedi ei gyhoeddi am law dros ran helaeth o Gymru fore Mawrth.
Bydd yn effeithio ar 14 o siroedd ar draws y wlad.
Mae'r rhybudd mewn grym rhwng 00:00 ac 13:00.
Fe allai 15-30mm o law ddisgyn mewn ardaloedd yn y de, gyda 40-50mm ar dir uchel.
Mae rhybuddion y gallai cyflwr y ffyrdd fod yn beryglus. Yn ogystal fe allai'r glaw trwm effeithio ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.
Fe allai rhai tai a busnesau ddioddef llifogydd hefyd.
Bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Abertawe
- Blaenau Gwent
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Caerffili
- Casnewydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Merthyr Tudful
- Penybont
- Powys
- Rhondda Cynon-Taf
- Sir Gaerfyrddin
- Sir Fynwy
- Torfaen