Newyddion S4C

Ronaldo yn teimlo iddo gael ei 'fradychu' gan Man Utd

14/11/2022
S4C

Mae blaenwr Tîm Pêl-droed Manchester United Cristiano Ronaldo wedi dweud ei fod yn teimlo iddo gael ei 'fradychu' gan ei glwb, a'i fod yn cael ei orfodi i adael Old Trafford.

Mewn cyfweliad gyda'r cyflwynydd Piers Morgan ar gyfer TalkTV, mae'n dweud hefyd nad yw'n parchu'r rheolwr Erik ten Hag.

Fis Awst, dywedodd Ronaldo, 37, y byddai'n datgelu ei brofiadau yn Old Trafford, ar ôl methu â sicrhau trosglwyddiad i glwb sy'n chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr. Dyma oedd o wedi gobeithio. 

Chafodd e ddim chwarae dros Manchester United yn y gêm yn erbyn Chelsea yn yr Uwch Gynghrair fis Hydref. Cafodd y penderfyniad yma ei wneud ar ôl iddo wrthod â chamu oddi ar y fainc yn y gêm yn erbyn Tottenham dridiau ynghynt.  

Mae Ronaldo hefyd wedi beirniadu'r rheolwr, Erik ten Hag yn hallt.   

"Does gen i ddim parch tuag ato, gan nad yw'n dangos parch tuag ata i," meddai.   

Dyw Manchester United ddim wedi ymateb i'r honiadau gan Cristiano Ronaldo. 

Yn ôl rhai adroddiadau yn y wasg, gallai gael dirwy o filiwn o bunnau, gan y clwb, am gymryd rhan yn y cyfweliad 

Bydd y sgwrs yn cael ei darlledu dros ddwy noson; nos Fercher, 16 Tachwedd a nos Iau, 17 Tachwedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.