Newyddion S4C

Y DU a Ffrainc yn arwyddo cytundeb newydd ar fewnfudwyr

Sky News 14/11/2022
x

Mae cytundeb newydd wedi cael ei arwyddo rhwng y DU a Ffrainc fydd yn gweld y ddwy wlad yn cynyddu eu hymdrechion i ddelio gyda mewnfudwyr.

Bydd yr Ysgrifennydd Cartref, Suella Braverman yn teithio i Baris fore Llun i gwrdd â Gweinidog Mewndir Ffrainc, Gerald Darmanin.

Yn ôl y Financial Times, bydd y cytundeb yn golygu cynnydd sylweddol yn nifer y swyddogion Ffrengig sydd yn gweithredu ar draethau'r Sianel, gyda'r bwriad o geisio sicrhau bod llai o fudwyr yn gadael.

Bydd y cytundeb hefyd yn gweld cynnydd mewn taliadau o Lundain i Baris a pherthynas agosach rhwng heddlu arfordirol y ddwy wlad.

Mae tua 40,000 o bobl wedi croesi mewn i Brydain eleni hyd yn hyn, cynnydd o'r ffigwr 28,526 y llynedd.

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.