Newyddion S4C

Cyngerdd S4C yn Efrog Newydd yn ‘rhannu diwylliant Cymru efo’r Byd’

14/11/2022

Cyngerdd S4C yn Efrog Newydd yn ‘rhannu diwylliant Cymru efo’r Byd’

Mae’r paratoadau ar gyfer ‘Cyngerdd Cymru i’r Byd’ sy’n cael ei gynnal gan S4C wedi dechrau yn Efrog Newydd, UDA.

Mae’r cyngerdd yn rhan o raglenni dathlu Cymru yng Nghwpan y Byd y sianel. Mae hefyd yn gyfle i gyflwyno gwobr ryngwladol arbennig i’r actorion Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney.

Bydd y cyngerdd yn cael ei gynnal nos Lun yn Neuadd Sony, Times Square, ac yn cael ei ddarlledu ar S4C nos Sul ar drothwy gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd yn erbyn yr UDA.

Mae disgwyl i dros 300 o Gymry America ac eraill heidio i Times Square nos Lun i weld artistiaid a sêr o Gymru yn perfformio.

Ymysg yr enwogion mae’r gantores boblogaidd Mared Williams.

Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd Mared: “Dwi’n rili edrych mlaen i fod yn rhan o’r gyngerdd yma. Ma’n rili braf cael rhyw fath o gymuned Gymraeg yn Efrog Newydd.

“Dwi rili teimlo bod y gymuned Gymraeg wedi dod at ei gilydd weekend yma.

“Mae’r ymarferion wedi bod yn mynd yn dda. Ma’n fraint rhannu’r llwyfan gyda chantorion eraill o Gymru.”

Image
S4C
Mae Mared Williams yn gantores a chyfansoddwraig sydd wedi perfformio yn y West End yn ddiweddar

Yn ôl Mared mae’r cyngerdd yn gyfle i rannu diwylliant Cymru gyda’r byd.

“Mae genon ni gymaint o gyfoeth yn ein cerddoriaeth a diwylliant,” meddai.

“Ma’n rili neis cael gweld Cymru yn cael platfform byd enwog yn ddiweddar ar raglen 'Welcome to Wrexham' efo Ryan Renolds a Rob McElhenney. So dwi rili yn ymfalchïo bo’ ni’n gallu rhannu’r iaith Gymraeg a chael creu partneriaeth wahanol yma allan yn Efrog Newydd.”

Mae LEMFRECK y rapiwr o Gymru yn falch o gael cynrychioli artistiaid a cherddoriaeth o gefndiroedd du yn y cyngerdd.

“Mae hi’n fendigedig bod yma. Dwi newydd fod yn ymarfer a dwi’n meddwl bod y cyngerdd am fod yn anhygoel - dwi wir yn edrych ymlaen.

“Mae cael cyngherddau rhyngwladol sy’n cynnwys artistiaid Cymraeg mor bwysig. Y mwyaf da ni’n dangos ein talent ar lwyfan byd eang y mwyaf sydd am ddod i ddeall ein diwylliant.”

Image
S4C
Mae Lemarl Freckleton neu'r artist LEMFRECK yn dysgu Cymraeg

Yn ddysgwr Cymraeg ei hun mae LEMFRECK yn gobeithio bydd y cyngerdd yn rhoi iaith a diwylliant Cymru ar lwyfan byd eang.

“Dwi’n meddwl bod gweld amrywiaeth o artistiaid, fel dwi’n artist du, ar lwyfan yn caru’r iaith Gymraeg, dwi’n meddwl bod o am annog mwy o bobl i ddysgu’r iaith.

“Hefyd, mae amrywiaeth y gerddoriaeth mor bwysig. Mae cerddoriaeth rap wedi dod yn fwy poblogaidd yng Nghymru. Mae ‘da ni Dom a Lloyd, Sage Todz, ac mae o yn gwthio’r iaith. Mae’r Gymraeg wedi integreiddio i gerddoriaeth ddu.”

Bydd y cyngerdd hefyd yn cynnwys perfformiadau o leoliadau eiconig ar draws Cymru, a chyfraniadau gan Ioan Gruffudd, Mathew Rhys, Michael Sheen a llu o artistiaid eraill.

Bydd modd gwylio ‘Cyngerdd Cymru i’r Byd’ ar S4C nos Sul 20 Tachwedd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.