Heddlu’n ymchwilio yn dilyn ymosodiad ym Merthyr Tudful
13/11/2022
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn adroddiadau bod dyn a menyw wedi eu trywanu ym Merthyr Tudful bore dydd Sul.
Mae'r ddau yn derbyn triniaeth yn ysbyty'r Tywysog Charles.
Dywedodd yr heddlu fod dyn lleol 52 oed o Benydarren wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi ffrwgwd
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan nodi cyfeirnod 2200383973.