Cymru’n colli i Loegr yng Nghwpan y Byd Rygbi’r Gynghrair Cadair Olwyn
13/11/2022
Mae Cymru wedi cael crasfa yn erbyn Lloegr yn rownd gynderfynol Cwpan y Byd Rygbi’r Gynghrair Cadair Olwyn yn Sheffield.
Fe gollodd Cymru 22-125 i Loegr sy’n ffefrynnau i ennill y gystadleuaeth.
Roedd Cymru ar ei hôl hi o 6-70 ar yr egwyl.
Roedd Lloegr wedi ennill eu grŵp gyda Chymru’n dod yn ail yn eu grŵp yn dilyn buddugoliaethau yn erbyn Yr Alban ac UDA.
Fe fydd Lloegr nawr yn wynebu pencampwyr y byd Ffrainc yn y rownd derfynol nos Wener, 18 Tachwedd ym Manceinion.
Llun: Twitter/RLWC2021