Ymchwiliad i negeseuon ‘ffiaidd’ cyn-swyddog Heddlu Gwent

Mae’r heddlu wedi lansio ymchwiliad i negeseuon “ffiaidd" gafodd eu darganfod ar ffôn symudol cyn-swyddog Heddlu Gwent a gymerodd ei fywyd ei hun.
Fe gafodd negeseuon hiliol, rhywiaethol a homoffobaidd honedig ar y ffôn eu rhannu gan nifer o swyddogion.
Mae ymchwiliad annibynnol wedi ei lansio dan arweinyddiaeth Heddlu Wiltshire.
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent Pam Kelly: “Mae Heddlu Wiltshire yng nghanol ymchwiliad annibynnol i gynnwys y ffôn symudol a dyfais arall.
"Mae’r cynnwys sydd wedi ei wneud yn hysbys i ni yn ffiaidd a bydd unrhyw swyddogion fydd yn cael eu hadnabod gan yr ymchwiliad sydd wedi torri naill ai safonau proffesiynol neu drothwy troseddol yn cael eu dal yn gyfrifol."
Darllenwch fwy yma.