Dynion Lloegr yn ennill Cwpan y Byd Criced T20
13/11/2022
Mae dynion Lloegr wedi ennill Cwpan y Byd Criced T20 gan guro Pacistan o bum wiced ym Melbourne.
Roedd Pacistan wedi cyrraedd 137-8 yn eu hugain pelawd.
Llwyddodd Lloegr i gyrraedd 138-5 mewn 19 pelawd gyda Ben Stokes yn sgorio 52 heb fod allan.
Mae hyn yn golygu fod Lloegr bellach yn bencampwyr y byd dros 20 a 50 pelawd.
Llun: Twitter/T20