Cymru a’r Alban yn galw am fwy o gyllid ar gyfer cyflogau’r Gwasanaeth Iechyd
Mae llywodraethau Cymru a’r Alban wedi galw ar Lywodraeth y DU i gynyddu’r cyllid sydd ar gael ar gyfer cyflogau’r Gwasanaeth Iechyd.
Mewn llythyr ar y cyd, mae Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan ac Ysgrifennydd Iechyd yr Alban, Humza Yousaf yn gofyn am ragor o gyllid i helpu osgoi gweithredu diwydiannol yn y Gwasanaeth Iechyd dros y gaeaf.
Fe gyhoeddodd Coleg Nyrsio Brenhinol ddydd Mercher bod ei aelodau wedi pleidleisio i fynd ar streic am y tro cyntaf yn hanes yr undeb.
Mae mwyafrif y nyrsys ymhob un o fyrddau iechyd Cymru heblaw am Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi pleidleisio o blaid mynd ar streic.
Dywed Llywodraeth Cymru bod mesurau wedi eu paratoi ar gyfer unrhyw darfu ar wasanaethau petai streicio'n digwydd.
Mae’r llythyr at Ysgrifennydd Iechyd y DU, Steve Barclay yn dweud: “Roeddem eisiau ysgrifennu atoch cyn Datganiad yr Hydref gan y Canghellor ar 17 Tachwedd i gyflwyno’r achos unwaith yn rhagor am gyllid ychwanegol ar gyfer staff gweithgar y GIG.
“Yn yr wythnosau diwethaf mae Dirprwy Brif Weinidog yr Alban a Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at Drysorlys Ei Fawrhydi i nodi’n glir bod angen cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.
“Mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi cyhoeddi mandad cyfreithiol ar gyfer gweithredu diwydiannol ar draws y DU. Yn yr Alban, maent wedi ymuno â sawl undeb arall sy’n cynrychioli staff y GIG i sicrhau mandad cyfreithiol ar gyfer gweithredu diwydiannol a disgwylir y bydd pleidleisiau’n cadarnhau mandad yng ngweddill y DU.
“Mae’r risg i’r GIG yn sgil gweithredu diwydiannol y gaeaf hwn yn ddifrifol, ac mae angen inni wneud popeth a allwn i osgoi gweithredu diwydiannol o unrhyw fath. Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn parhau i deimlo effaith y pandemig ar draws y DU wrth iddo adfer wedi’r cyfnod hwn, ac mae’n debygol y bydd unrhyw weithredu yn cael effaith drychinebus ym mhob rhan o’r DU.
“Rydym yn wynebu argyfwng costau byw, ac mae dicter staff y GIG yn gwbl ddealladwy. Mae cynnydd aruthrol mewn chwyddiant a chyfraddau llog uchel, sy’n ganlyniad uniongyrchol i’r anhrefn a achoswyd gan fini-gyllideb Llywodraeth y DU, yn golygu na allwn ni ddod yn agos at fodloni disgwyliadau staff y GIG ar hyd a lled y wlad. Er ein bod yn croesawu’r cymorth a roddwyd gan Lywodraeth y DU mewn rhai meysydd fel biliau ynni, nid yw wedi mynd hanner digon pell.
“Mae adroddiadau yn y cyfryngau yn awgrymu bod y Canghellor yn ystyried ailgyflwyno mesurau cyni yn y DU unwaith eto drwy wneud toriadau helaeth i wariant. Does dim mandad ar gyfer hyn. Byddai hyn yn drychineb ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y GIG, ar adeg pan mae angen mwy, nid llai, o fuddsoddiad.
“Rydym felly’n erfyn arnoch i weithio gyda ni i gyflwyno’r achos i’r Canghellor, cyn ei Ddatganiad yr Hydref, am fwy o gyllid i’r GIG a’r llywodraethau datganoledig yn gyffredinol. A hynny’n bennaf er mwyn rhoi codiad cyflog teg i staff gweithgar ein GIG yn wyneb yr argyfwng costau byw y gaeaf hwn, ac i osgoi gweithredu diwydiannol a allai fod yn drychinebus i'r GIG.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU wrth Newyddion S4C: “Rydym yn buddsoddi symiau eithriadol mewn iechyd a gofal cymdeithasol ac mae’r Canghellor wedi bod yn glir fod amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus fel y Gwasanaeth Iechyd yn flaenoriaeth.
"Rydym yn hynod ddiolchgar am waith caled staff y GIG, gan gynnwys nyrsys a dyna pam rydym wedi derbyn argymhellion y corff adolygu cyflogau’r GIG yn llawn ac wedi rhoi codiad cyflog o o leiaf £1,400 eleni i filoedd o weithwyr y GIG yn Lloegr.
"Mae hyn ar ben y cynnydd o 3% y llynedd pan roedd cyflogau yn y sector gyhoeddus wedi eu rhewi a chymorth ehangach y Llywodraeth gyda chostau byw."