Newyddion S4C

Cymru'n taro nôl gyda buddugoliaeth yn erbyn Yr Ariannin

12/11/2022
Taulupe Faletau

Fe gurodd Cymru Yr Ariannin yn haeddiannol o 20-13 yng Nghaerdydd nos Sadwrn.

Fe ddechreuodd Cymru’r gêm yn bwrpasol gyda rhediadau gan y cefnwr Louis Rees-Zammitt a’r asgellwr Rio Dyer yn cyffroi’r dorf yn y munudau agoriadol.

Serch hynny yr ymwelwyr aeth ar y blaen gyda chic gosb i’r asgellwr Emiliano Boffelli ar ôl saith munud.

Fe giciodd Boffelli ei ail ar ôl 12 munud i ddyblu sgôr Yr Ariannin wrth i Gymru ildio nifer o giciau cosb.

Daeth cyfle am gais i Gymru ar ôl 27 munud pan groesodd y bachwr Ken Owens y llinell gais ond cafodd y bêl ei tharo o’i afael wrth iddo geisio tirio.

Gyda Chymru’n mwynhau mantais y meddiant fe ddaeth eu haeddiant gyda chais i’r wythwr Taulupe Faletau yn dilyn hyrddiad o lein ar ôl 31 munud.  Fe drosodd y maswr Gareth Anscombe i osod Cymru ar y blaen o bwynt.

Fe aeth Cymru ymhellach ar y blaen gyda chic gosb i Anscombe ar ôl i'r Ariannin gael eu cosbi am gamsefyll.

Cymru 10-6 Yr Ariannin ar yr hanner.

Fe gafodd Cymru ddechrau da i’r ail hanner gyda chais wrth i’r mewnwr Tomos Williams daro i lawr cic i groesi ar ôl 46 munud gydag Anscombe yn trosi. 17-6 i Gymru bellach.

Fe gododd Yr Ariannin eu gêm wrth i Gymru wastraffu safleoedd ymosod da.

Fe groesodd Yr Ariannin y llinell gais ond methwyd â thirio’r bêl gan roi’r cyfle i Gymru glirio.

Wrth i'r Ariannin gadw’r bêl ymhlith y blaenwyr fe dderbyniodd ail reng Cymru Will Rowlands gerdyn melyn ar ôl 54 munud gyda'r ymwelwyr yn synhwyro fod ganddyn nhw obaith i daro nôl.

Fe lwyddodd Cymru i wrthsefyll ymosodiadau'r Ariannin wrth i’r ymwelwyr fwynhau mwyafrif y meddiant yn erbyn un dyn yn llai.

Fe dynnodd yr eilydd Rhys Priestland y stêm allan o obeithion Yr Ariannin gyda chic gosb ar ôl 63 munud.

Er i Rowlands ddychwelyd i’r cae fe groesodd Yr Ariannin am gais i’r eilydd o brop Chaparro yn dilyn hyrddiad o lein a gyda Boffelli yn trosi roedd y pwysau nôl ar Gymru ym munudau ola'r gêm.

Wrth i'r Ariannin bwyso fe gadwodd chwaraewyr Cymru eu pennau am fuddugoliaeth haeddiannol o 20-13.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.