Newyddion S4C

Elfyn Evans yn yr ail safle yn Rali Siapan

12/11/2022
Elfyn Evans

Mae’r Cymro Elfyn Evans yn yr ail safle ar ôl tri diwrnod o Rali Siapan.

Mae ef yn bedair eiliad yn unig y tu ôl i Thierry Neuville o Wlad Belg yn dilyn cymalau dydd Sadwrn gyda phum cymal yn weddill i gwblhau’r rali ddydd Sul.

Mae Evans yn y pedwerydd safle yn y bencampwriaeth ar ôl 12 rali mor belled.

Rali Siapan fydd yr olaf yn y bencampwriaeth am eleni.

Llun: Twitter/Elfyn Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.