Newyddion S4C

Wcráin: Arlywydd Zelensky yn canmol gwydnwch pobl Kherson

Sky News 12/11/2022
Pob yn Kherson

Mae arlywydd Wcráin Volodymyr Zelensky wedi canmol gwydnwch pobl Kherson wrth i luoedd Rwsia ffoi o’r ddinas yn ne'r wlad.

Dywedodd Mr Zelensky: “Roedd pobl Kherson yn aros. Mae gobaith i Wcráin yn gyfiawn. Rwy’n hapus i weld gymaint o bobl, er gwaethaf y bygythiadau a thrais, eu bod wedi credu yn Wcráin.

Rhoddodd rybudd i luoedd Rwsia gan ychwanegu: “Yr unig iachawdwriaeth sydd gennych yw ildio i Wcráin. Nid oes pwynt i chi guddio.

“Byddwn yn eich trin yn de gyn ôl y gyfraith a safonau rhyngwladol.”

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.