Dihangfa lwcus i 16 o bobl ar Lyn Tegid yn y Bala

Bu'n rhaid rhoi triniaeth feddygol i wyth o bobl ger llyn Tegid yn y Bala ddydd Iau ar ôl iddyn nhw fynd i drafferthion yn y dŵr.
Roedd yr wyth yn rhan o griw o 16 o bobl oedd yn cymryd rhan mewn gweithgaredd awyr agored ar y pryd, pan suddodd eu badau mewn gwyntoedd cryfion.
Fe aeth y bobl i drafferthion am tua 16:00, gyda rhai yn y dŵr am hyd at 45 munud cyn cael eu hachub.
Bu'n rhaid galw'r heddlu a'r gwasanaeth tân am gymorth, ond ni chafodd neb anaf difrifol.
Darllenwch ragor yma.