Newyddion S4C

Gwrthdroi dedfryd o garchar i ffermwr o Flaenau Ffestiniog

BBC Cymru Fyw 11/11/2022
David William Lloyd Thomas

Mae barnwr wedi gwrthdroi dedfyd o garchar i ffermwr o Wynedd wedi iddo dorri gwaharddiad rhag cadw cŵn, yn ôl BBC Cymru.

Ddydd Llun, cafodd David Williams Lloyd Thomas, 56 oed o Flaenau Ffestiniog ei garcharu am 24 wythnos.

Roedd wedi ei gyhuddo o fethu â chwrdd ag anghenion neu gynnal amgylchedd addas ar gyfer 29 o gŵn ar ei fferm ac fe blediodd yn euog. 

Fe wnaeth Mr Thomas hefyd bledio'n euog i achosi dioddefaint diangen i anifail a thorri gwaharddiad blaenorol yn ei erbyn. 

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener, penderfynwyd y byddai ei ddedfryd yn cael ei gostwng i 13 wythnos o garchar, wedi'i ohirio am flwyddyn.

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.