'Costau byw yn cael effaith ar bresenoldeb disgyblion'
Mae costau byw yn cael effaith ar bresenoldeb disgyblion, yn ôl Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Senedd Cymru.
Mae'r pwyllgor yn awyddus i gael astudiaeth frys gan Lywodraeth Cymru fel y gallant ddeall yn well y problemau sy'n wynebu teuluoedd.
Roedd costau teithio, gwisg ysgol, offer a thripiau ysgol yn rhai o'r ffactorau a gafodd eu defnyddio er mwyn rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor.
Yn ôl Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, mae ffigyrau presenoldeb yn "sylweddol is" i blant mewn grwpiau blwyddyn lle nad oes ganddynt yr hawl i drafnidiaeth am ddim, ac maent yn galw am gamau er mwyn ymestyn hawliau.
Ychwanegodd y comisiynydd fod angen rhoi absenoldeb disgyblion yng nghyd-destun tlodi a bod angen i'r her i drechu tlodi "fod yn sbardun allweddol wrth leihau absenoldeb o'r ysgol."
Roedd y presenoldeb isaf yn y flwyddyn academaidd ym Mlwyddyn 11 tra roedd y presenoldeb uchaf ym Mlwyddyn 7.
Salwch yw'r rheswm mwyaf cyffredin am absenoldeb.
Mae'r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu astudiaeth frys er mwyn astudio'r berthynas rhwng yr argyfwng costau byw ac absenoldeb disgyblion ysgol.
Covid-19
Yn ôl y tystiolaeth a dderbyniwyd gan y pwyllgor, mae'r pandemig a chau ysgolion wedi cael effaith fwy goddefgar o ran derbyn absenoldeb disgyblion.
Dywedodd Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru, mae lleihad sylweddol wedi bod ym mhryder rhieni yn nhermau pwysigrwydd presenoldeb yn ogystal â myfyrwyr.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Jayne Bryant AS, nad oes modd "diystyru effaith absenoldeb o’r ysgol ar bobl ifanc. Nid yn unig y mae’n effeithio ar gyrhaeddiad addysgol, ond gall hefyd gael effaith ar iechyd meddwl a llesiant.
"Mae anfon plant i’r ysgol hefyd yn fusnes drud i deuluoedd. Mae’n rhaid i rieni ddod o hyd i arian ar gyfer gwisg ysgol, llyfrau, technoleg, deunydd ysgrifennu, bagiau ysgol, tripiau ysgol, clybiau ar ôl ysgol. Mae diffyg cludiant am ddim hefyd yn broblem i lawer – mewn argyfwng costau byw gyda chwyddiant cynyddol, mae hyn yn mynd yn anoddach fyth bob dydd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod "Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi bod yn glir bod gwella cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion yn flaenoriaeth genedlaethol.
“Rydym yn cydnabod bod y ffigyrau presenoldeb cyffredinol tua 3% yn is na chyn y pandemig a bod y rhesymau am hyn yn gallu bod yn gymhleth.
“Rydym wedi gweithredu nifer o fesurau i gefnogi teuluoedd ac ysgolion, gan gynnwys buddsoddi £4m ychwanegol ar gyfer swyddogion ymgysylltu â theuluoedd i sefydlu perthnasoedd cadarnhaol gyda rhieni a disgyblion."